Diffusion Festival Logo Revolution 1-31 May 2017 bullhorn Created with Sketch. Created with Sketch.

Gweithdy Ffilmio ar Ffôn Clyfar gyda David Evans

David Evans, cyd-sylfaenydd Gŵyl Ddogfen Ryngwladol Cymru, sy'n cynnal y gweithdy hwn a fydd yn canolbwyntio ar ffilmio gyda'ch ffôn clyfar. Bydd y gweithdy'n edrych ar dechnegau a fydd yn galluogi gwneuthurwyr ffilm ifanc i wneud eu ffilmiau eu hunain am y nesa' peth i ddim, gan ddefnyddio'r ddyfais sydd ym mhoced pob un byth a hefyd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly gwnewch gais am docyn RHAD AC AM DDIM cyn gynted â phosib!