Gweithdy Cynhyrchu Cerddoriaeth gyda Stiwdio Corner House
DIM TOCYNNAU AR ÔL
Stiwdio Corner House, un o'r stiwdios recordio mwyaf blaengar yng Nghaerdydd, fydd yn cyflwyno'r gweithdy cynhyrchu cerddoriaeth hwn. Bydd yn canolbwyntio ar weithio gyda chaneuon, artistiaid, peirianwyr a pherfformwyr. Cewch weld hefyd sut i baratoi trac stiwdio, sut i ysgrifennu harmonïau a sut i ychwanegu gwahanol weadau. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly gwnewch gais am docyn RHAD AC AM DDIM cyn gynted â phosib!