Neruda
Neruda (15)
Chile/2016/108mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Pablo Larrain Gyda: Luis Gnecco, Gael Garcia Bernal, Mercedes Morán
Yn Chile, tua diwedd y 1940au, mae Pablo Neruda yn ffoi rhag gormes y llywodraeth. Mae'r ditectif dygn Peluchonneau yn ei erlid ac mae naratifau'r ddau ddyn yn cydblethu. Mae'r ddau yn benderfynol o greu eu mythau eu hunain, un fel ditectif o fri, y llall fel bardd rhamantaidd mawr ac arwr y werin. Archwiliad treiddgar o'r modd yr ydym yn mynd ati i ysgrifennu straeon ein bywydau ein hunain.