Diffusion Festival Logo Revolution 1-31 May 2017 bullhorn Created with Sketch. Created with Sketch.

CONCRÈTE: A SONIC INTERVENTION

Doedd chwyldro sain a cherddoriaeth yr 20fed Ganrif ddim ar y teledu. Yn hytrach, cafodd ei dapio a’i samplo, ei dynnu bob ffordd, ei ail-ddyfeisio ac yna’i ail-eni: Proses o droi cefn ar hen draddodiadau i chwilio am iwtopiau sonig modern. 

Bu rhai’n dyfeisio technoleg recordio/electronig newydd, tra roedd eraill yn ymateb i sŵn a sain trwy greu ac archwilio dulliau mynegiant modern. Bu chwilfrydedd parhaus yn rhan annatod o’r chwyldro cerddoriaeth synau yma - o’i gamau cyntaf ar ddechrau’r 20fed Ganrif hyd heddiw.

Ymateb i hyn gan y cyfansoddwr John Rea yw’r gosodiad sonig yma: Teyrnged i Ddyfodoliaeth Luigi Russolo, Lluniadaeth Rwsiaidd, Bauhaus, a meddylwyr a chrewyr herfeiddiol fel Maurice Martenot, Leon Theremin, John Cage, Karlheinz Stockhausen, Cornelius Cardew, Luciano Berio, Edgard Varese,Iannis Xenakis, Milton Babbitt, La Monte Young, Kraftwerk, Robert Moog, Don Buchla, Brian Eno, Gweithdy Radioffonig y BBC, John Zorn....

Yn ysbryd ‘Poeme Electronique’ gan Edward Varese, a gomisiynwyd gan y pensaer Le Corbusier ar gyfer ei Bafiliwn yn arddangosfa fawr Expo Brwsel ym 1958, fe grewyd y gosodiad yma yn benodol ar gyfer y gofod yma a’i amodau acwstig.