Tramshed Tech
Rydym wedi creu man gyda’r nod o hyrwyddo cydweithio rhwng rhai o’r busnesau creadigol gorau yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddarparu platfform arloesol ar gyfer cymuned cydweithio lwyddiannus a chefnogol. Os ydych chi’n gwmni technoleg newydd sbon neu’n ddylunydd hynod brofiadol – neu rhywle yn y canol – mae digonedd o gyfleoedd i chi yma. Mae hefyd digonedd o goffi am ddim ac efallai cwrw neu ddau hyd yn oed!